Aeth Steff Jenkins i Wersyll yr Urdd, Llangrannog, am y tro cyntaf pan oedd yn fachgen 11 oed - doedd e ddim yn ei hoffi o gwbl. Tra oedd e yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Rhydfelen, aeth e'n ôl fel swog - y tro hwnnw, mi ddaliodd y byg. Daeth y Gwersyll a mudiad yr Urdd yn ganolbwynt i'w fywyd gwaith am dros ddeugain mlynedd, a daeth e'n adnabyddus i ddegau o filoedd o blant Cymru yn ystod ei gyfnod fel Pennath Llangrannog. Mae Steff wedi ymddeol bellach, ac er y buasai'n well ganddo chwarae golff, penderfynodd adrodd ei stori ar ei hyd yn gyntaf. Felly dyma hi - i bawb sy'n cofio'r Hen Gapel a phebyll y bechgyn yng ngwaelod y cae, mynd i'r môr, prynu pop yn y siop, marchogaeth, canu 'Nefol Dad' yn yr epilog, dawns Llangrannog, pa mor cŵl oedd y swogs a dyfodiad y llethr sgio. Mwynhewch yr atgofion...