Cicio'r Bwced
Nofel gyfoes, lawn hwyl ac iddi linyn storïol gref, gan yr awdur poblogaidd Marlyn Samuel. Nofel am hynt a helynt dwy wraig, Menna a'i ffrind Jan. Ar ôl ymadawiad disymwth ei gwr Glyn, wedi trawiad angheuol, mae Menna sydd yn ei saithdegau cynnar fel petai'n cael ei gollwng yn rhydd i fwynhau bywyd, a chariad, am y tro cyntaf.