Teleri Bevan
Magwyd Teleri Bevan ar fferm ger Aberystwyth a chafodd ei haddysgu ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio fel darlledydd radio a chyflwynydd teledu am bedair degawd, cyn cael ei hapwyntio fel golygydd Radio Wales. Ymddeolodd fel Pennaeth Rhaglenni BBC Wales yn 1991.