Eleri Llewelyn Morris
Brodor o bentref Mynytho ym Mhen Llŷn yw Eleri Llewelyn Morris. Graddiodd mewn Seicoleg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Bu'n olygydd y cylchgrawn i ferched, Pais, am bum mlynedd ar ôl ei sylfaenu. Mae'n gweithio fel cyfieithydd ac awdur, gan ysgrifennu i'r papur bro Llanw Llŷn.