Hanes Y Lolfa
Sefydlwyd Y Lolfa ganol y chwedegau mewn cyfnod o hwyl a phrotest pan oedd cenhedlaeth newydd o bobl ifainc yn hawlio lle i’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd. Roedd llyfrau Cymraeg ar y pryd yn bethau digon diflas, ac yr oedd yn rhan o weledigaeth y cwmni i greu math newydd o gyhoeddi oedd yn fywiog, heriol, lliwgar a phoblogaidd. Llyfr cynta’r Lolfa oedd Hyfryd Iawn gan Eirwyn Pontshân, llyfr doniol a gwreiddiol a fyddai’n gosod y safon ar gyfer y dyfodol.
Manteisiodd y cwmni’n llawn ar ryddid artistig y dechnoleg newydd offset litho, gan ehangu’n raddol i faes llyfrau poblogaidd fel Welsh is Fun (sydd wedi gwerthu dros 250,000 o gopïau erbyn hyn!) Ond yna dechreuodd gyhoeddi nofelau cyfoes, llyfrau ffeithiol amrywiol, a chyfresi gwreiddiol i blant. Polisi’r cwmni yw gwrthod addasu o ieithoedd eraill er mwyn cefnogi artistiaid ac awduron Cymreig.
Yn 1974, roedd y cwmni’n falch i helpu sefydlu Papur Pawb, y papur bro cyntaf. Yn nes ymlaen cofleidiodd y dechnoleg ddigidol: Y Lolfa oedd y cwmni cyhoeddi Cymraeg cyntaf i gael ei gwefan ei hun. O’r dechrau, fe benderfynodd argraffu popeth yn fewnol yn Nhalybont, gan arwain at fuddsoddi cyson mewn offer argraffu a rhwymo, a systemau cysodi. Yn ddiweddar mae’r Lolfa wedi buddsoddi mewn gwasg Xerox digidol sy’n cyd-redeg â’i dwy wasg Komori B2 (un 5-lliw ac un 2-liw ar gyfer argraffu llyfrau).
Yn 2007 fe enillodd Y Lolfa wobr Llyfr y Flwyddyn am y trydydd tro o’r bron, a phan ddathlodd ei hanner canrif yn 2017 roedd wedi hen sefydlu fel un o brif weisg Cymru. Mae’r Lolfa nawr yn cyflogi 22 o staff amser llawn ac yn gwmni cyfyngedig mewn perchnogaeth deuluol. Daw bron i hanner y trosiant o’i waith argraffu masnachol.