Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Tachwedd
12
(2017) 18:00
Y Morlan, Aberystwyth
Cofio Hedd Wyn
Ymunwch a ni ar gyfer noson arbennig i gofio Hedd Wyn a phob un a laddwyd yn rhyfel erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd noson o gofio ar ddydd Sul y Cofio, 12fed o Dachwedd am 6 o'r gloch yng nghanolfan Y Morlan, Aberystwyth yng nghwmni Robin Gwyndaf, awdur y gyfrol COFIO HEDD WYN, Linda Tomos a rhai o griw Canolfan Y Morlan, Aberystwyth.
Bydd cerddoriaeth ac adloniant hefyd gan Eleri Roberts a Trefor Pugh.
Mynediad am ddim a croeso cynnes i bawb.
Ym mlwyddyn cofio canmlwyddiant marw Hedd Wyn (1917-2017), mae COFIO HEDD WYN yn gyfrol i’w thrysori a’i hanwylo. A chyfrol i’n sobreiddio. Cofio’r golled enbyd
wedi marw’r bardd. Cofio’r dioddefaint anfesuriadwy a choswyd gan y Rhyfel Mawr.