Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel i ddysgwyr, gan ddysgwr - Cân draddodiadol yn sbarduno nofel i siaradwyr Cymraeg newydd

Mae awdur sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun wedi ysgrifennu nofel i helpu dysgwyr eraill. Ysbrydolwyd nofel Ewan Smith gan y gân draddodiadol ‘Hen Ferchetan’. Mae Ewan sy’n byw ym Mae Colwyn yn ysgrifennu nofelau poced a straeon rhamantus a throsedd i gylchgronau merched, The People’s Friend a My Weekly ond dyma ei nofel gyntaf yn Gymraeg. Pam felly iddo droi at yr iaith a dechrau dysgu’n selog? Meddai’r awdur:

Ar y dechrau, roedd yn fater o barch. Roedd Anna, fy ngwraig, a minnau'n symud i wlad efo'i iaith ei hun. Roedd yn ymddangos yn iawn y dylen ni geisio dysgu o leiaf y pethau sylfaenol. Ond mi wnaethon ni ddarganfod yn gyflym fod dysgu Cymraeg yn alwedigaeth bleserus a chyfeillgar iawn. Roedd y dosbarthiadau'n llawn hwyl a'r tiwtoriaid mor galonogol. Hefyd, mae dysgu iaith newydd fel oedolyn yn brofiad hynod ddiddorol. Rwyt ti'n dysgu cymaint am sut mae iaith yn gweithio. A dach chi'n dechrau dallt pam fod iaith yn rhan mor bwysig a phersonol o hunaniaeth pobl.’

Daeth Ewan ar draws yr hen gân hon wrth ddarllen nofel Bethan Gwanas, Blodwen Jones A’r Aderyn Prin. Yn y gân mae Lisa o’r Hendre cael ei siomi gan ei chariad ac yn torri ei chalon. Mae hi’n hiraethu am gael teulu ac yn trio ei gorau i wireddu hynny. Mae’n cael ei gyrru’n agos at anobaith ond dydy hi ddim yn rhoi’r gorau iddi. Gyda chymorth ei ffrind, Llinos, mae’n cymryd rheolaeth o’i bywyd ac un diwrnod, mae hi’n mynd i Ffair y Bala... Mae’r awdur wedi llunio stori ddifyr a ffraeth a rhoi bywyd newydd i hen gân.

Mae iaith Hen Ferchetan yn addas ar gyfer dysgwyr Canolradd ac mae geirfa ar bob tudalen ac ar ddiwedd y gyfrol. Mae’n rhan o brosiect cyffrous ‘Amdani’ i ddysgwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Meddai’r awdur:

‘Mae'r Gymraeg yn llawer mwy nag iaith - mae'n ddiwylliant cyfan. Ac mae dysgwyr eisiau cael mynediad at y diwylliant hwnnw. Felly mae'n bwysig bod yna lyfrau i ddysgwyr Cymraeg eu darllen o gychwyn cyntaf eu taith. Dw i wedi mwynhau llyfrau i ddysgwyr gan awduron fel Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros a Jon Gower. Mae eu gwaith fel dawns i ddathlu'r iaith. Mi wnes i ddarganfod fy mod am ddawnsio yn ôl eu traed. Roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr i ddysgwyr fy hun oedd i) stori dda ii) llawn bywyd a iii) syml i ddarllen (dim brawddegau hir!) Ac felly yr ysgrifennwyd 'Hen Ferchetan'. Rŵan mae fy nhraed yn goglais a dw i eisiau dawnsio rhywfaint mwy!

Enillodd Ewan Smith gystadleuaeth farddoniaeth i ddysgwyr Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol, 2021 a chymryd rhan yn yr Wyl Ddarllen i Ddysgwyr a chael sylw ar wefan dysgucymraeg.cymru. Mae wedi byw yn Yr Alban, Canada a Lloegr. Nawr, mae’n byw gyda’i wraig ar lan y môr yng Ngogledd Cymru. Gweithiodd fel newyddiadurwr, gwarchodwr ac athro hefyd. Enillodd wobr Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn cylchgrawn Cosmopolitan yn 1978. Enillodd y prosiect ‘From Now On’ Artes Mundi efo Llenyddiaeth Cymru yn 2021. Lluniwyd y llun lliwgar ar gyfer y clawr gan Twm Morgan, artist o Aberystwyth sy’n un o reolwyr siop lyfrau Inc yn y dref.