Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Hapus wrth ei hun mewn breuddwyd roc a rôl? Cleif Harpwood sy’n diosg yr haenau i gyd mewn hunangofiant ar drothwy oed yr addewid

“’Ry’n ni’n meddwl dechre grŵp,” medde Iestyn (Garlick) wrtha i un diwrnod rhwng darlitho’dd... “Pam lai?” medde fi, a dyma ddechre ar ’y mherthynas i â’r byd adloniant Cymraeg.”

Felly mae Cleif Harpwood yn ei dweud hi, ac mae ei hunangofiant, Breuddwyd Roc a Rôl? (Y Lolfa) yn dweud llawer mwy hefyd. Mae’n rhyfedd sut mae moment mor ymddangosiadol fach yn gallu dal cymaint o ystyr wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddynt, oherwydd roedd y foment hon yn foment fawr mewn gwirionedd. Dyma ysbardun gyrfa’r canwr a’r perfformiwr gwalltog, ac mae’n dal i ganu a pherfformio gyda’r un angerdd digymar hyd heddiw. Cleif Harpwood – yn aelod o fand Ac Eraill, yn brif leisydd i fand Edward H. Dafis, ac yn beth wmbredd mwy hefyd. Cawn yma flas ar y rhan a chwaraeodd ef wrth fynd yn groes i’r graen ac arloesi ar y sîn roc, a chawn fewnwelediad ar yr ochr chwerw o’i fywyd a’i yrfa, sy’n profi na fu popeth yn fêl i gyd iddo.

Meddai’r awdur:

‘Do, fe gawson ni lot fawr o hwyl wrth deithio Cymru ac mae’r gyfrol yn adrodd ambell stori am y giamocs a’r direidi oedd yn rhan o’r profiad o fod mewn band. Mae hefyd yn ymdrin â’r berthynas arbennig oedd yn bodoli rhwng y pump aelod, mi ro’dd Edward H yn frawdoliaeth. Y tristwch yw bod pundits y sîn roc heddiw yn diystyru’r cyfnod hwn yn llwyr gan mai 1980au yn eu tyb nhw oedd dechreuad y byd roc Cymraeg.’

Tu hwnt i hynny, gwelwn fod bro ei febyd wedi bod yn llinyn arian gydol ei fywyd. Meddai: ‘Cefais fy magu yn Afan Walia, tiriogaeth Arglwyddi Cymreig dyffryn Afan. Rwy’n teimlo bod ardaloedd sy’n bennaf ddi-Gymraeg fel Port Talbot wedi’u dilorni gan lawer o bobl dros y blynyddoedd, ond rwy’n gobeithio bydd y gyfrol hon yn amlygu’r diwylliant Cymraeg cyfoethog a fu yno dros y canrifoedd.’ Ond wrth gwrs, caiff y lleddf le i anadlu yn y llyfr hwn hefyd, wrth i’r awdur ddweud iddo ddioddef o iselder o ganlyniad i sefyllfa heriol. Meddai: ‘Mae’r gyfrol yn adrodd cyfnod yn f’ieuenctid pan oedd ’na bwysau mawr arnaf gan un garfan o’r teulu i ymroi at fath o gred nad oeddwn am ei harddel. Fe heuwyd had ynof a eginodd deimlad o euogrwydd gormesol, a dyna dwi’n meddwl oedd gwraidd y cyflwr. Roedd prysurdeb bywyd yn cadw’r felan draw, ond ro’dd teulu a chydnebydd yn gwybod mod i’n gallu bod yn berson dwys ac oriog.’

Ond pam nawr? A pham cyhoeddi? Mae gan yr awdur ateb i hynny. Meddai: ‘Yn bennaf oherwydd mod i’n dathlu fy mhen-blwydd yn 70 oed yn 2023, a roeddwn yn teimlo, fel un sydd wedi cael y fraint o fyw bywyd digon amrywiol a lliwgar, llawer ohono yn llygaid y cyhoedd, bod ’na agwedde eraill o ’mywyd yr hoffwn eu rhannu – y llon a’r lleddf. [...] Rwy’n gobeithio bydd y gyfrol wrth fodd y darllenydd, pwy bynnag y bo, ac yn ysgogiad i’r bobol hynny, fel fi, o’dd unwaith ar yr ymylon ond a ddarganfu mor werthfawr yw bod yn Gymro neu’n Gymraes.’ 

Mae Cleif Harpwood yn ganwr ac yn gyfansoddwr adnabyddus. Roedd yn aelod o fandiau Ac Eraill ac Injaroc ac yn brif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis. Fe dreuliodd flynyddoedd yn gweithio fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu ar nifer fawr o wahanol raglenni i'r BBC, ITV, CH4, S4C a'r sector annibynnol. Yn wreiddiol mae’n ‘fachgen o ’Brafan’ ac fe symudodd yn ôl i ardal ei febyd yn 2006 ac mae bellach yn byw ar Fynydd-y-Gaer, Baglan. Yn ystod ei yrfa fe fu’n byw yng Nghaerfyrddin, de Ceredigion, Caerdydd Pontypridd a Thalyllychau. Mae'n bwriadu symud 'Tua'r gorllewin' unwaith yn rhagor cyn hir.