Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Geiriadur daeareg newydd yn llenwi bwlch

Er bod yna sawl geiriadur daeareg ar gael yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, hyd at eleni, doedd dim un ar gael yn Gymraeg.  Mae’r Lolfa newydd lenwi’r bwlch wrth ryddhau’r geiriadur daearegol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Awdur Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear yw’r awdur, golygydd a daearegwr amlwg Dr Dyfed Elis-Gruffydd.

Dywedodd D. Geraint Lewis, awdur nifer o eiriaduron Cymraeg, a chyfaill i’r awdur,

“Go brin bod yna neb sy’n gwybod mwy am wyneb Cymru a’r hyn sydd dan yr wyneb hwnnw na’r teithiwr a’r daearegwr Dr Dyfed Elis-Gruffydd. Yr ydym yn gyfarwydd â hanesion am ei hoff Breselau, teithiau yn cofnodi golygfeydd hynotaf Cymru a’i ddadansoddiadau gwyddonol ofalus o’n daeareg. Yr wyf i serch hynny, yn gyfarwydd â Dyfed Elis-Gruffydd arall, y golygydd craff a fu’n gweithio am ddegawdau ar fy ngeiriaduron ac a achubodd fy ngham ar lawer achlysur. Pleser o’r mwyaf felly yw gweld y ddau Ddyfed yn dod ynghyd yn y Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear - geiriadur termau unigryw sy’n cyfuno diffinio awdurdodol â threfn eiriadurol drylwyr, cyfrol yn wir, sy’n batrwm o’i bath.”

Prif amcan y geiriadur yw cyflwyno a diffinio’r termau hynny sy’n ymwneud â daeareg yn benodol a’r gwyddorau daear yn gyffredinol. Mae i’r geiriadur ddwy ran, yn gyntaf, geiriadur sy’n diffinio dros 1,800 o dermau Cymraeg, ac yn ail, mynegai Saesneg – Cymraeg sydd yn cynnwys dros 2,000 o dermau Saesneg, ynghyd â’r termau Cymraeg cyfatebol. Bydd y geiriadur o gymorth i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr coleg, athrawon, darlithwyr a chyfieithwyr ac hefyd i’r chwilotwyr hynny a chanddynt ddiddordeb arbennig mewn daeareg, geomorffoleg a daearyddiaeth ffisegol.