Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bom Arwisgo’r Tywysog Charles wedi’i gwneud gan ‘Barnes Wallis Cymru’

Cafodd bom ei gwneud allan o diwb Horlicks mewn ymgais i atal arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon gan ddyn oedd yn cael ei adnabod fel “Barnes Wallis” Cymru. Ond ni achosodd y ddyfais – a grëwyd i ryddhau’r Cymry o “ormes y Sais” – fawr o ddifrod pan gafodd ei phrofi, gan orfodi Byddin Rhyddid Cymru (FWA) a’i harweinydd lliwgar, Cayo Evans i ailfeddwl eu cynllun.

Mae’r hanesyn, sy’n cael ei adrodd gan y newyddiadurwr Lyn Ebenezer, yn ymddangos mewn llyfr newydd o’r enw Charles and the Welsh Revolt gan yr awdur Arwel Vittle. Mae’r llyfr yn archwilio’r dechrau ffrwydrol i yrfa frenhinol y Brenin Siarl III a sut, yn ôl cenedlaetholwyr, y mae’r “traddodiad brenhinol gormesol wedi bod yn falltod ar y genedl ers canrifoedd” ers i Edward I ddiorseddu Tywysog brodorol olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

Mae Lyn Ebenezer yn cofio teithio i ardal anghysbell gyda Cayo yn y cyfnod cyn yr arwisgo brenhinol.

“Yno roedd tua ugain o fechgyn yr FWA yn profi bom newydd,” meddai Ebenezer. “Roedd y bom wedi ei wneud allan o diwb Horlicks ac roedd y dyn wnaeth y bom yn byw yn Llangollen. Cyflwynodd Cayo ef fel ‘Barnes Wallis Cymru’, y mae ei fom yn mynd i’n rhyddhau o ormes y Sais.”

Peiriannydd a dyfeisiwr o Loegr oedd Barnes Wallis, sy’n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio’r bom ‘bownsio’ a ddefnyddiwyd gan yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth gofio’r bom oedd yn cael ei brofi, mae Ebenezer yn cofio cuddio tu ôl i wal gerrig.

“Ac ro’n ni i gyd tu ôl y wal nawr a dyma fi’n gweld y mwg yn mynd mewn i’r wal i’r bom, ac wedyn mewn ychydig eiliadau sŵn: ‘Ffftt.’ Cododd cwmwl o fwg ond symudwyd dim un garreg! Roedd defaid yn dal i bori a chododd dim un ohonyn nhw’u pennau chwaith.”

“A dw i’n cofio’n iawn beth wedodd Cayo: ‘F**k it, boys - back to the drawing board!”

Ymddangosodd yr FWA yn gyhoeddus am y tro cyntaf mewn protest yn 1965 yn erbyn adeiladu cronfa ddŵr Llyn Celyn. Ond canlyniad campau’r FWA oedd tynnu sylw oddi wrth y “bomwyr go iawn” sef MAC,  dan arweiniad John Jenkins a gafodd ei radicaleiddio gan foddi Cwm Tryweryn.

Cafodd y cenedlaetholwr Cymreig a’r milwr yn y Fyddin Brydeinig ei garcharu am 10 mlynedd am drefnu ffrwydradau mewn ymgyrch yn erbyn yr arwisgiad.

Mae John Jenkins, a fu farw’n ddiweddar, yn cael ei ddyfynnu yn y llyfr yn dweud: “Sut ddiawl ydych chi’n disgwyl i bobl ddathlu eu concwest eu hunain?” Ychwanegodd: “Yr unig ffordd i gael eich clywed yw codi stŵr. Ac mae’n rhaid i chi godi stŵr sy’n creu bygythiad credadwy.”

Dywedodd yr awdur Arwel Vittle: “Roedd y chwedegau yn gyfnod llawn tyndra nid yn unig gyda’r ymgyrch fomio, ond hefyd protestiadau di-drais a ralïau mawr Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn cael ei llwyddiannau etholiadol cyntaf. Roeddwn am edrych ar yr hyn a achosodd yr adwaith eithafol hwn ynghylch yr Arwisgo, a oedd hi’n werth ymgyrchu mor galed yn erbyn y peth, ac a allai’r cyfan ddigwydd eto.”

Dywedodd yr awdur llyfrau hanes poblogaidd, gan gynnwys I’r Gad, hanes ffotograffig protestiadau iaith, a Valentine, cofiant i Lewis Valentine: “Ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol edrych ar flynyddoedd ffurfiannol Charles ym mywyd cyhoeddus fel Tywysog, a ddechreuodd mewn modd reit ffrwydrol, oherwydd awyrgylch gwleidyddol Cymru’r chwedegau, a oedd yn danbaid a dweud y lleiaf.

“Gyda Charles yn dod yn Frenin, roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr hanes poblogaidd a oedd yn ddarllen difyr yn ogystal â rhoi gwybodaeth.

“Roedd yn dda clywed o lygad y ffynnon sut brofiad oedd bod yn rhan o’r cyfnod –oherwydd doedd llawer ddim wedi siarad o’r blaen am eu profiadau– yn enwedig o ran gweithgaredd yr heddlu cudd – yn wir cymharodd Saunders Lewis y sefyllfa yng Ngwynedd ar y pryd i wladwriaeth plismyn fel yr hen Tsiecoslofacia – ac roedd yn ddiddorol codi’r llen ar hynny.”

Cyhoeddir Charles and the Welsh Revolt gan Y Lolfa ac mae ar gael i’w brynu ar-lein ac yn eich siop lyfrau leol (£9.99)