Sesiwn stori a gweithdy celf gyda Felicity Haf
Mae Felicity ar fin cyhoeddi ei llyfr cyntaf, gwreiddiol i blant - Begw Haf a Mam-gu Betsi! Dyma stori annwyl am ferch fach yn pobi cacen arbennig gyda'i mam-gu, wedi ei hadrodd a'i darlunio'n hyfryd gan Felicity Haf ei hun.
Bydd y sesiwn am ddim ac yn addas ar gyfer plant 5 i 10 oed yn bennaf ond croeso cynnes i bawb!
Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Felicity bellach yn yn gweithio yn Llundain fel artist a cynllunydd ffasiwn.