Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Sesiwn stori a gweithdy celf gyda Caryl Lewis a Valériane Leblond

Dewch draw i Siop y Pethe yn Aberystwyth ar brynhawn Sadwrn y 4ydd o Dachwedd am 2 o'r gloch ar gyfer sesiwn stori a gweithdy celf gyda Caryl Lewis a Valériane Leblond!

Addas i blant 3 i 9 oed.

Mae'r sesiwn yn seiliedig ar y gyfrol hardd newydd MERCH Y MEL.

Dyma gyfrol hardd arall gan Caryl Lewis a Valériane Leblond, yn dilyn llwyddiant Sgleinio'r Lleuad a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Tir na n-Og 2015. Mae Elsi'n byw gyda'i mam-gu, sy'n gofalu ar ôl gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy'n digwydd yn yr ardd yn ystod y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.