Parti lansio Mam - Croeso i'r Clwb! yng Nghaffi Alys Machynlleth
Bydd Heulwen yn cael ei holi gan yr awdures Myfanwy Alexander.
Mae Mam - Croeso i'r Clwb! yn lyfr ffeithiol i famau newydd. Bydd yn arwain y fam trwy'r beichiogrwydd, hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn. Bydd yn cynnwys nifer o benodau byrion, yn seiliedig ar brofiad yr awdur, ond yn cynnwys nifer o ddyfyniadau gan famau eraill o bob cwr o Gymru...
Bydd gwydr o brosecco (neu opsiwn di-alcohol) a chacennau bach i bawb a danteithion di-ri!
Mynediad am ddim a chroeso i bawb.