Clwb Clecs - Digwyddiad i Ddysgwyr Cymraeg ar sail cyfres newydd Amdani
Digwyddiad i Ddysgwyr Cymraeg ar sail cyfres newydd Amdani gyda Nia Parry a'r awduron Zoe Pettinger, Sarah Reynolds a Meinir Wyn Edwards.
Mae’r prosiect Llyfrau Amdani yn gweld pedwar o weisg Cymru, Y Lolfa, Atebol, CAA a Gwasg Gomer, yn cyd-weithio i ddatblygu a chynhyrchu cyfres o lyfrau ar y cyd gyda Chanolfan Cenedlaethol Dysgu Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru.
Ceir 6 nofel yn y pecyn cyntaf.
Mae’r nofelau wedi’u graddoli ar bedair lefel Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac
Uwch a bydd y gyfres yn cyd-fynd gyda chyflwyniad cyrsiau newydd Cymraeg i
Oedolion o fis Medi 2018 ymlaen. Mae'r digwyddiad yn rhan o Fedwen Lyfrau 2018. Am ddim - croeso i bawb!