Blodeuwedd
Drama mewn pedair act. O blith ein chwedlau mae'n siwr mai stori Blodeuwedd yw'r un sydd wedi ei hadrodd amlaf o genhedlaeth i genhedlaeth. O blith ein dramâu, fe dybiwn hefyd mai Blodeuwedd sydd wedi ei llwyfannu fwyaf cyson o blith ein clasuron. Dyma argraffiad newydd o ddrama glasurol gan Saunders Lewis, gyda rhagair gan Arwel Gruffydd.