Stori am eneth o'r enw Mali Meredur sydd yn y llyfr hwn; ond wrth adrodd hanes cymeriad dychmygol, llwyddodd y llenor i roi inni ddarlun mwy byw na'r un hanesydd o fywyd cefn gwlad Cymru ynghanol y ganrif ddiwethaf, cyn bod yna Wladwriaeth Les i ofalu am y gwan a'r tlawd. Ganed Mali yn y flwyddyn 1848, a dilynir ei hanes nes ei bod yn ddeugain oed. Yn y dechrau, geneth ddiniwed, anwybodus iawn yw Mali, heb gael yr un diwrnod o ysgol, ac yn byw mewn tlodi dychrynllyd; ond yn ystod y nofel hon, fe'i gwelwn yn datblygu i fod yn gymeriad cryf ac arwrol. Mae yma hefyd gymeriadau eraill cofiadwy, sy'n haeddu eu lle mewn unrhyw oriel o brif gymeriadau llenyddiaeth Gymraeg.
Cyhoeddwyd y nofel yn y flwyddyn 1939. Cafodd dderbyniad brwd gan ddarllenwyr cyffredin, ond nid gan y beirniaid uchelael, a gwynai ei bod yn rhy boblogaidd! Gan hynny, anghofiwyd amdani am flynyddoedd lawer. Bydd darllenwyr heddiw yn sylweddoli ei bod yn un o glasuron llenyddiaeth Cymru. Gellir dadlau fod ganddi'r diweddglo mwyaf grymus a thrawiadol o unrhyw nofel Gymraeg.
Bydd ei darllen yn brofiad ysgytiol i lawer.