Rhaglen cymanfa Jim Parc Nest sydd rhwng y cloriau hyn. Cenir mawl i'w anwyliaid – ei deulu, ei gyfeillion a'i arwyr. Clywir hefyd ambell nodyn beirniadol a hunanfeirniadol. Ceir canu llon a lleddf am ennill, colli, geni a marw, ac am enaid a gwareiddiad, iaith a chenedl yn goroesi. Cyhoeddir y gyfrol hon o gerddi ar achlysur dathlu pen-blwydd Jim yn bedwar ugain oed, ac y mae ynni ac ysbryd oesol yn perthyn i'r casgliad yn ogystal ag oes o brofiad.