Maestref ddychmygol yng Nghaerdydd yw Y Dyfroedd; enw sy'n cuddio hanes trychineb go iawn a hen anghofiwyd. Wrth i'r Ysgol Gynradd Gymraeg yno nesau at ddathlu hanner can mlwyddiant ers ei sefydlu, aiff Rwth ar ofyn Oswyn Morris, y prifathro cyntaf, i dwrio am atgofion. Ond caiff fwy nag y mae wedi bargeinio amdano gan y dyn a adawodd y ddinas tan gwmwl hanner canrif yn ôl.
Trwy hanesion Mr Morris daw Rwth yn ymwybodol o sawl agwedd ar hanes ei dinas fabwysiedig na wyddai ddim amdanynt a chlyw am sawl tro ar fyd a ddaeth i ran ei thrigolion dros y canrifoedd. Mae hithau hefyd yn wynebu newidiadau yn ei bywyd, gyda'i merch, Elin, ar ei phrifiant a'i chwaraebeth achlysurol, Russ, yn ennyn chwilfrydedd ac amheuaeth am yn ail.
Tybed ai Mr Morris yw'r dylanwad gorau wrth iddo lywio llwybr i'r dyfodol? Wedi'r cwbl, daw'n amlwg ei fod wedi byw o dan faich atgofion enbyd o'i blentyndod, a bod ei straeon yn llawn cyfleoedd coll . . . a phlant a gollwyd.