'Tonfedd C4. Asiant Twm yn galw Gelert. Asiant Twm yn galw Gelert. Wyt ti'n fy nghlywed i, Gelert? Drosodd.'
Dim ateb.
Mae Alun, Jac a Catrin wrth eu bodd yn gwylio'r cystadlu yn Sialens Ieuenctid y Byd yng Nghymru. Ond pwy sy'n ceisio bygwth y Sialens? Ac a oes cysylltiad rhwng diflaniad Gelert, pennaeth C4, sef Cŵn Cymru Cyfrinachol Cyf, a'r cynllwyn hwnnw? Rhaid galw am help Twm, Ffranco a gweddill asiantau C4, i ddatrys y dirgelwch. Ond a fyddan nhw'n gallu dod o hyd i Gelert cyn iddi fod yn rhy hwyr..?