Hanes pump ffrind yw hanes Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco. Mae'r haf yn hir a Rhys, Aled, Jason, Bianchi a Bili yn cwrdd yn y parc i fwynhau chwarae a chweryla yng nghwmni ei gilydd. Hoff gêm y criw yw bwrw'r Bronco ar y siglenni yn y parc - mae'n cymryd cryn sgil i neidio oddi ar y siglenni nes bod y seddi'n hedfan yn uchel dros y bar - gall pawb fwrw Bronco; pawb, heblaw am Bili. Mae'r ddrama ddifyr, ddoniol ac ystyrlon hon yn archwilio'r berthynas rhwng bechgyn ifanc â'i gilydd a'r frwydr barhaol i fod y gorau ar bopeth. Mae'r themâu sy'n plethu drwyddi draw'n rhai perthnasol i ddisgyblion ysgolion uwchradd, mae'n delio â phynciau fel teyrngarwch, gonestrwydd a rhwystredigaeth ond hefyd â phethau dwysach fel trais a marwolaeth. Daw'r chwerthin a'r cecru i ben yn ddisymwyth gydag un digwyddiad erchyll.