Pan sefydlwyd Gwasg Gomer yn 1892 gan J. D. Lewis, pwy feddyliai bryd hynny y byddai'r cwmni'n dal i weithredu gant ac ugain o flynyddoedd yn ddiweddarach dan ofal yr un teulu? Nid hanes teulu'r Lewisiaid yn unig a geir yn Creu Argraff mae'n hanes cymuned hefyd oherwydd bu Gwasg Gomer yn rhan annatod o fywyd Llandysul a'r cylch ers cenedlaethau. Yn ogystal, mae'r cwmni wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol Cymru ers dros gan mlynedd ac yn parhau'n ffynhonnell gyfoethog o lenyddiaeth a llyfrau i'r genedl eu trysori heddiw. Atgofion un o drydedd genhedlaeth y teulu, John Lewis, sydd yma ynghyd â hanesion am droeon difyr yr yrfa ym myd argraffu a chyhoeddi Cymru, gan obeithio y gwnân nhw greu argraff arnoch.