Dyma addasiad newydd o'r cyfrolau poblogaidd Cornel Canu a Cornel Canu 2. Trysorfa gyfoethog sy'n llawn campweithiau o dros ugain o ganeuon gwahanol yw Cornel Canu. Bydd y lluniau lliwgar yn sicr yn denu llygad a sbarduno dychymyg plant yn y Cyfnod Sylfaen. Mae llu o bynciau amrywiol a'r caneuon, sydd â geiriau yn ogystal â threfniant cerddorol syml.
Natur yw un o'r themâu amlycaf gydag ambell gân am Yr Hydref, Cennin Pedr, Y Pedwar Tymor a Pero a'r Llyffant. Mae'r Nadolig hefyd yn amlwg yn y gyfrol gyda chaneuon yn sôn am Y Dyn Eira, Anrhegion a Siôn Corn. Dyma gyfrol wych i'w defnyddio mewn ysgolion ac eisteddfodau a chasgliad hyfryd o ganeuon i'w canu gartref.