Codi llen ar y Gymry Gymraeg 'ynysig' ac ar awr dywyllaf yr awdur . . . Neu sut y baglodd Americanwr ar draws gwersi Cymraeg pan na allai chwilio am 'porn' ar ei gyfrifiadur. Heb anghofio sut y trodd dysgu iaith y nefoedd yn uffern ar y ddaear. A disgrifiad o'r modd y ceisiodd ladd ei hun. Mae Cwrw am Ddim yn gofnod blogonest am ymchwil a helyntion un a siomwyd gan ei wlad enedigol, a'i ymgais i fabwysiadu gwlad newydd, ddieithr lle mae barddoniaeth yn bwysig. Yn anffodus, mae'r awdur yn casáu barddoniaeth. Ffraeth, lliwgar, sensitif ac er ei waethaf yn sylwebaeth gymdeithasol werthfawr, mae Cwrw am Ddim yn cynnig mwy na sylw am y Profiad Cymraeg o'r tu-allantu-mewn, mae'n sylw ar y profiad dynol. Unrhyw sylw arall? 'Go f*** yourself if my use of English upsets you.' O. Fe'ch rhybuddiwyd.