Llywelyn
Nofel wedi ei gosod yn ystod blynyddoedd olaf teyrnasiad Llywelyn ein Llyw Olaf, yn adrodd hanes yr arwres Beth, merch o deulu bonheddig sy'n ei chael ei hun ynghanol berw cynllwynio gwleidyddol a gwrthdaro mewnol yn llys Llywelyn. Mae nifer o elynion gan y tywysog, megis Dafydd ei frawd a brenin Lloegr, Edward Iaf, ond erys Beth yn driw iddo hyd y diwedd.