Pecyn cyflawn o nofelau Cyfres y Dderwen, sy'n ddarllen heriol ar gyfer yr arddegau hwyr ac yn addas i oedolion yn ogystal.
Mae'r gyfres yn cynnwys enillwyr gwobrau Tir na n-Og - Annwyl Smotyn Bach (Lleucu Roberts) ac Yr Alarch Du (Rhiannon Wyn). Mi gyrhaeddodd Siarad (Lleucu Roberts), Pentre Saith (Ceri Elen) a Dim (Dafydd Chilton) restr fer y gwobrau.
Ceir dwy nofel gan Gareth F. Williams yn adrodd hanes Y Ddwy Lisa, yn ogystal â dwy nofel yr un gan yr awduron toreithiog Sonia Edwards a Lleucu Roberts.
Tabl Cynnwys:
Annwyl Smotyn Bach, Lleucu Roberts
Bore da, Gwennan Evans
Deryn Glan i Ganu, Sonia Edwards
Dim, Dafydd Chilton
Mari Wyn, Sara Ashton
Pentre Saith, Ceri Elen
Rhywle yn yr Haul, Sonia Edwards
Siarad, Lleucu Roberts
Y Ddinas ar ymyl y Byd, Arwel Vittle
Y Ddwy Lisa: Sgrech y Dylluan, Gareth F. Williams
Y Ddwy Lisa: Cysgod yr Hebog, Gareth F. Williams
Yr Alarch Du, Rhiannon Wyn