Ers i fi fod yn grwt ysgol ifanc iawn yn Aberaeron, roedd Mam yn dweud yr un peth wrtha i bob tro cyn i fi gamu ar y cae i chwarae rygbi. "Whare fel 'se whant arna ti!" Fe ddywedodd hynny wrtha i tan y gêm ola un yn erbyn Seland Newydd... Y trueni yw bod fy nghyfnod i o chwarae'r gêm wedi gorfod dod i ben cyn i'r chwant ddiflannu.'
Crwt o gefn gwlad Ceredigion yw Dafydd, ac fel bachgen o'r wlad roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hela a dilyn rasys trotian. Yn Ysgol Gyfun Aberaeron y dechreuodd gymryd diddordeb mewn rygbi, gan ddangos gallu anghyff redin fel chwaraewr a dod i sylw clwb rygbi Llanelli. Bu'n driw i glwb y 'Sosban Fach' trwy gydol ei yrfa, gan chwarae dros 200 o weithiau i dimau Llanelli a'r Scarlets ac ennill 42 o gapiau dros ei wlad. Cafodd y clod mwya pan ddywedodd Richie McCaw o Seland Newydd, blaenasgellwr gorau'r byd, mai Dafydd oedd y gwrthwynebydd caleta iddo chwarae yn ei erbyn.
Dyma hunangofiant Cymro twymgalon sy'n bwrw golwg yn ôl dros ei yrfa lewyrchus, yn rhoi ei farn ddiflewyn-ar-dafod am yr hyfforddwyr y bu'n chwarae iddyn nhw ac yn adrodd hanesion rhai o sêr y byd rygbi yng Nghymru ar ac oddi ar y maes.