"Edrych, Anni," meddai Ellis, "edrych ar y sêr, Edrych ar y miloedd o glystyrau; fedar neb na dim heblaw am y wawr ddiffodd y sêr, sti. Pan fydda i yn Litherland, ac os bydd yn rhaid i mi fynd i'r ffosydd, Anni, dwi am i ti edrych ar y sêr, ac mi wna inna 'run fath. Fedar neb ddiffodd y sêr. Neb."
Mae Ellis yn gorfod mynd yn filwr, fel degau o fechgyn ifainc eraill ardal Trawsfynydd adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond mae Anni'n edrych ar y sêr bob nos ac yn ysu am i'w brawd ddod adre i'r Ysgwrn, yn enwedig ar ôl gweld effaith erchyll yr ymladd ar dad Lora, ei ffrind gorau. Mae gwobr bwysig yn aros am Ellis, y bardd, os daw adre'n ddiogel...
Nofel ysgytwol am fardd enwocaf Cymru, Hedd Wyn.