Drama gerdd newydd sbon, wedi'i seilio ar ganeuon Edward H Dafis, ar gyfer pobl ifanc, sy'n cynnwys sgript wreiddiol a 12 cân ac yn para tua 100 munud i'w pherfformio.
Mae'r stori'n troi o gwmpas Lisa Pant Ddu sydd wedi cael digon ar ei bywyd undonog ac yn ysu am gael profiadau gwahanol, ond dyw bywyd yn y ddinas fawr ddim cweit yr hyn a ddychmygodd.
Mae'r caneuon hynod gofiadwy yn atgyfnerthu'r tyndra sy'n wynebu pobl ifanc wrth iddynt ddewis rhwng bywyd y dref a bywyd cefn gwlad; rhwng gwarchod "yr hen ffordd Gymreig o fyw" a llunio Cymru gyfoes.
Perfformiwyd y sioe gan gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ym mis Gorffennaf 2012.
Sgript: Mari Rhian Owen
Trefniant Cerddorol: Rhys Taylor