Cynnal y Fflam - Golwg ar Annibynwyr Sir Benfro
Cyfrol amrywiol sy'n bwrw golwg dros rai o weithgareddau Annibynwyr Sir Benfro, ac yn cynnwys portreadau o gyn-lywyddion yr Undeb, y prifeirdd, y cantorion, y cyfansoddwyr tonau a'r awduron nodedig. Cynhwysir nifer o gerddi ac emynau, pigion o anerchiadau, atgofion, hanesion, ysgrifau comisiwn a llawer mwy.