Mae'r cyflwyniad llawn lluniau hwn i ddatblygiad cartrefi Cymru o'r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol yn adrodd hanes cyfnod allweddol yn nhreftadaeth bensaerniol gyfoethog Cymru. Mae'n archwilio mathau allweddol fel y neuadd agored, y ty hir a'r bwthyn ochr yn ochr â ffurfiau rhanbarthol arbennig fel Ty Eryri a phensaerniaeth ffrâm bren fendigedig y Gororau.
Mae'r llyfr hwn yn seiliedig ar waith arloesol Peter Smith gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a ysgogodd y clasur dylanwadol "Houses of the Welsh Countryside" - astudiaeth sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ac a gafodd ddylanwad dwfn ar y ddealltwriaeth a'r gwerthfawrogiad o adeiladau traddodiadol yng Nghymru ers ei chyhoeddi gyntaf yn 1975. Mae'r cyflwyniad newydd hwn yn adrodd y stori hyd at heddiw gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r dehongliadau diweddaraf ac mae'n gydymaith ysblennydd i'r gyfres deledu nodedig "Catrefi Cefn Gwlad Cymru" ar S4C.
Gyda mapiau sy'n dangos daearyddiaeth gwahanol fathau o dai, lluniau sydd wedi eu comisiynu'n arbennig a delweddau manwl sydd wedi eu cynhyrchu gan gyfrifiadur ar gyfer y gyfres deledu, bydd y llyfr hwn yn apelio at berchnogion tai, penseiri, haneswyr a phawb sy'n mwynhau adeiladau traddodiadol a'r hanesion rhyfeddol y maen nhw'n eu hadrodd am fywydau pobl Cymru.
Mae Richard Suggett yn ymchwiliwr i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Greg Stevenson yn hanesydd pensaerniol ar ei liwt ei hun.