Robat Arwyn yw un o gyfansoddwyr mwyaf toreithiog a phoblogaidd Cymru. Dyma gyfrol sy'n cwmpasu caneon allan o bedair o'i sioeau cerdd - Rhys a Meinir, Iarlles y Ffynnon, Plas Du a Pwy bia'r gân?
Mae'r caneuon yn cynnwys geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd ab Owain yn ogystal â chrynodeb o stori'r sioeau a nodiadau cefndir gan y cyfansoddwr i bob cân. Mae cyfeiliant piano Robat Arwyn yn ychwanegu at naws hudolus y caneuon.
Dyna gyfrol a fydd yn apelio at bob unawdydd, yn enwedig y nifer cynyddol sy'n cystadlu mewn cystadlaethau unawd allan o sioe gerdd mewn eisteddfodau - cystadlaethau sy'n cynyddu mewn poblogrwydd wrth i fwy a mwy o bobol ifainc gael eu denu gan oleuadau neon llachar y theatrau.