A Very Small Corner of Paradise
Dyma lyfr sy'n edrych ar hanes Llanllŷr yn nyffryn Aeron. Ceir yma stori'r bobl sydd wedi byw yno a'u gerddi, a hanes ail-greu'r ardd gan y teulu sy'n byw yno bellach. Mae'r stori yn dechrau gyda seintiau Celtaidd yn yr Oesoedd Tywyll, wedyn lleianod Sistersaidd yn ystod yr Oesoedd Canol, sgweieriaid Elisabethaidd, bonedd Fictoraidd ac, erbyn hyn, ffermwyr ac entrepreneuriaid.