Dwylo ar y Piano 3: Dawnsiau Celtaidd
Dyma gasgliad o ddawnsiau o'r gwledydd Celtaidd wedi'u trefnu i biano ar gyfer disgyblion sydd eisoes wedi meistroli'r sgiliau elfennol. Mae'r cyflwyniad yn glir a cheir nifer o bwyntiau ynglŷn â manylion technegol cerddoriaeth, megis cyweirnodau a rhythmau. Adnodd gwerthfawr gan athrawes biano brofiadol.