Lot-o-Swn!
Gêm fwrdd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu sgiliau llafar, gwrando a darllen. Mae'r pecyn yn cynnwys 4 bwrdd chwarae, cownteri a CD o synau ar themâu Y Fferm, Yn y Tŷ, Trafnidiaeth a Gwlad y Rwla. Mae'r gêm yn rhan o ddeunyddiau cyfres Darllen mewn Dim ac yn cyd-fynd â chymeriadau Cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos. Adnodd gwerthfawr ar gyfer pob plentyn 3 i 7 oed.