Berw'r Byd 2 Ffeithiol
Yn dilyn llwyddiant Berw'r Byd a gyhoeddwyd yn 2007, dyma ail lyfr ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7-9. Mae'r deunydd yn datblygu sgiliau llafar, darllen, ysgrifennu a meddwl. Mae'r 3 uned, ar y testunau Llaw, Lliw a Llefydd, wedi'u paratoi ar lefelau gwahanol. Mae'r ddau awdur yn athrawon profiadol.