Mewn cyfarfod tanbaid ynglyn a datblygiad melinau gwynt yn neuadd bentre Esgair-goch, cafodd Martin Thomas, y Cnwc, newyddion da. Byddai Fferm Wynt Hyddgen yn cael ei hadeiladu ar dir mynyddig ei fferm. Ond ynghanol ffrae sy'n hollti cymuned mae buddugoliaeth Martin Thomas yn gyflym troi'n ddim, wrth iddo gael ei lofruddio ar ei ffordd adref o'r cyfarfod.
Gareth, Mel ac Akers, y tri ditectif o Heddlu Dyfed-Powys sy'n ymchwilio i'r drosedd ac wrth ddilyn sawl trywydd maen nhw'n darganfod bod gan y ffermwr nifer o elynion. Mae'r ymchwiliad yn arwain at sgandal wleidyddol a blacmelio cwmni rhyngwladol Caerwynt. Mae'r plot yn byrlymu gan ddigwyddiadau sy'n portreadu cymdeithas gyfoes cefn gwlad Ceredigion, gan gyrraedd uchafbwynt trist ac annisgwyl.