Ali Yassine: Llais yr Adar Gleision
Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Dyma hunangofiant un o gefnogwyr enwocaf tim pêl-droed Caerdydd. Llyfr am bêl-droed yw hwn, ond hefyd llyfr am gymeriad diddorol iawn o gefndir Arabaidd. Ali Yassine oedd y llais ar feic yr hen Barc Ninian, ac ef hefyd sy'n diddanu'r dorf yn y stadiwm newydd.