Dyma gyfrol arbennig (clawr meddal) sy'n cyfuno hunangofiant artist gyda nifer fawr o'i luniau mwyaf eiconig. Trwy gyd-fwynhau'r geiriau a'r lluniau down i ddeall sut y daeth Aneurin Jones yn brif bortreadydd y gymdeithas wledig Gymraeg. Darllenwn am ei fagwraeth yng Nghwm Wysg, ei flynyddoedd hwyliog yng Ngholeg Celf Abertawe, ac yna'r cyfnodau ffrwythlon yn Sir Benfro a Cheredigion lle cafodd ailddarganfod y gymuned glos a'r cymeriadau gwreiddiol a adnabu yn ei ieuenctid. Yn llawn straeon ffraeth a phortreadau cofiadwy o bobl ac o anifeiliaid hefyd, dyma drysor o gyfrol sy'n cofnodi rhin a rhamant ffordd o fyw sydd ar fin diflannu, tra ar yr un pryd yn dathlu gwaith un o'r artistiaid gorau sydd gennym fel cenedl.