Glyndŵr a Gobaith y Genedl - Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr
Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr
Cyfrol hygyrch sy'n amlinellu'r sylw a dderbyniodd Owain Glyndŵr (Glyn dŵr) gan ein beirdd a'n llenorion o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd at heddiw, gan fanylu'n arbennig ar flynyddoedd ei anterth fel eicon cenedlaethol o tua 1880 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd â thaflu golwg ar ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a lle Glyndŵr yn y datblygiad hwnnw.