Cyfres Sglods Blods: 2. Y Cathod Coll
Ail stori ddifyr am Fflur a Gruff, dau ffrind anturus sy'n datrys sawl dirgelwch sy'n poeni trigolion pentref Rhos-gam: cathod coll, sgriffiadau ar geir, llanast mewn border blodau, teulu anghynnes a dieithryn mewn siwt lwyd. Dilyniant i Y Cwch a'r Torrwr Tatws.