Nest
Nofel wedi'i gosod yn ystod cyfnod Dafydd ap Gwilym. Mae Efa'n ferch i felinydd ger afon Honddu. Mae'n ysu am gael dianc rhag y bywyd cythryblus, y gwrthryfel a'r pla sydd o'i chwmpas o hyd. Llwydda i ymuno â chiwed o feirdd sy'n clera o gwmpas Cymru. Er mai dim ond am flwyddyn mae hyn yn para, mae'n brofiad sy'n llywio gweddill ei bywyd.