O, na! O, na! Mae'n drychineb! Mae'r haint wedi strywio'r rhan fwyaf o'r tato. Y tato oedd yn berffaith iach a maethlon pan godon ni nhw o'r ddaear. Agorodd Dat y pydew bore 'ma a'i weld yn llawn o ddim ond potsh afiach. Yr unig beth sy 'da ni ar ôl i fwyta yw'r tato sy heb fynd dan y ddaear.
'Chwe mis o fwyd yn llwyth o botsh drewllyd. O ble mae e wedi dod?' Dyna'r cwbwl allai Dat ei ddweud drwy'r bore heblaw am, ' Fe aiff yr haint â ni i gyd.'
Teimlais fy hun yn oeri wrth wrando arno. Fferrodd fy ngwaed. Beth allwn ni ei wneud? Bydd yn rhaid i ni ddefnyddio arian y rhent i brynu bwyd. Ond beth wedyn? Os na thalwn ni'r rhent byddwn ni mas ar yr heol.