Ac yntau'n llanc dwy ar bymtheg oed ar ei wyliau haf ym Mhwllheli, fe gafodd Hywel Heulyn brofiad ysgytwol. 'Tua wyth o'r gloch y bore, dyma'r cefn yn agor a'r dyn gwerthu ffrwythau yn rhuthro i mewn a'i wynt yn ei ddwrn."Mae'r diawliaid wedi rhoi Penyberth ar dan!" meddai. Nid gormodaith yw dweud bod yr hyn a welais y diwrnod hwnnw wedi llywio cwrs fy mywyd.'
Ddeng mlynedd a thrigain yn ddiweddarach, dyma Hywel Heulyn yn bwrw trem yn ol dros fywyd i'w gofio - gyrfa lewyrchus yn y banc; symud o Lerpwl ei fagwraeth i Gymru ei gyndeidiau; priodi a gwraig dda o Geredigion a chael ei fabwysiadu gan y sir honno i'r fath raddau nes dod yn gynghorydd; bod yn Gadeirydd Cyngor Sir Dyfed ac, yn sgil hynny, cael cyfrifioldebau gweinyddu a llywodraethu helaeth; magu pedwar o blant dawnus a diwylliedig; bod yn hoelen wyth y pethau gorau - yn enwedig y capel, y gymdeithas, Plaid Cymru - a gwneud y cyfan hyn gydag arabedd, ffraethineb a moesgarwch arbennig.
Er i gymylau duon iawn sgubo ar draws ffurfafen ei fywyd o bryd i'w gilydd, nid dyn i ddagalonni mo Hywel Heulyn; mae'n hawdd teimlo gwres ei gymeriad unigryw yn yr hunangofiant gafaelgar hwn. Dyma gyfle i rannu profiad dyn sydd wedi sefyll yn gadarn dros Gymru gydol ei fywyd