Beth sy'n gwneud i chi chwerthin? Gall synnwyr digrifwch fod yn beth personol iawn, ond yn y casgliad llawen hwn o gerddi gobeithio y dowch o hyd i rywbeth sy'n mynd i godi gwên ar eich wyneb chi! Mae yma gerddi am gymeriadau doniol fel Matilda; digon o chwarae ar eiriau ac odli slic - a sobor; a hen ffefrynnau gan feirdd mor amrywiol â Dafydd ap Gwilym, Geraint Løvegreen, W. R. Evans a Dewi Pws! A yw eich hoff gerdd ddigri chi yma? Plymiwch rhwng y cloriau am reiat o ganu hapus, hurt a hwyliog. Mae rhywbeth i ogleisio pawb yma a bydd un o'r cerddi digri hyn yn sicr o fod yn addas i chi heddiw.