'Pan rwy'n gweld beth sydd yn yr amlen licen i petawn i heb ei agor. Rwy'n gwybod nawr bod rhywun arall yn gwybod. Rwy'n gwybod mai mater o amser fydd hi cyn y bydd pawb yn gwybod.'
Does dim byd ym mywyd Judith Myfanwy Evans yn syml. I ddechrau, dydy Judith ddim yn gallu dweud 'na'. Dyna sut mae Erin yn ei pherswadio i fynd i'r clwb colli pwysau, er mai colli pwysau ydy'r peth diwetha mae Judith eisiau ei wneud mewn gwirionedd. Dyna sut mae hi'n cwrdd â Huw Teifi, yr actor sebon enwog a seren Pobol y Gwm. Dyna sut mae cyfres o ddigwyddiadau'n dechrau fydd yn arwain at ddatgelu hen gyfrinach y mae Judith wedi ei chadw ar hyd y blynyddoedd.
Dewch i fyny ac i lawr gyda Judith wrth iddi drio dal y ddysgl yn wastad gyda'i theulu; trio cefnogi Erin, sy'n cael trafferth gyda'r efeilliaid a Brei, ei gŵr blinedig; trio gwneud ei marc yn y byd cyfieithu heb dynnu blewyn o drwyn Lowri, ei chydweithwraig berffaith ond llym ei thafod - a chyfri calorïau wrth fynd!
Byddwch yn siŵr o chwerthin - a chrio - gyda nofel newydd Meleri, sy'n ddathliad o fywyd yn ei holl gymhlethdod ffwl-ffat!