Freeloading Cymru
Cofnod difyr o ymgais y digrifwr Tony Millin i deithio o gwmpas Cymru am ddim, gan ddibynnu'n llwyr ar gymwynasgarwch y bobl ar ei ffordd. Aeth ar ei hynt heb arian gan roi ei ymddiriedaeth yn gyfan gwbl yn y Cymry fyddai'n barod i gynnig trafnidiaeth, bwyd, llety a diddanwch. Y canlyniad yw adroddiad o daith ryfeddol, rwystredig a digrif.