Dyma'r pedwerydd llyfr yn y gyfres boblogaidd hon. Y testun y tro hwn yw un o hoelion wyth y byd cerddorol yn yr hen Sir Fflint, Rhys Jones, a'i ferch amryddawn, Caryl Parry Jones. Mae Rhys yn arweinydd, yn gyfeilydd ac yn drefnydd cerddorol dawnus i nifer fawr o gorau, unigolion a phartïon, ac yn ddarlledwr poblogaidd. Yn ei swydd fel athro ymroddedig bu ei ddylanwad cerddorol yn drwm ar genedlaethau o blant. Pa ryfedd, felly i Caryl ddatblygu'n un o sêr amlycaf byd adloniant Cymru! Beth sy'n ysgogi'r ddau? Sut berthynas sy rhyngddynt? Pwy a beth fu'n ddylanwad arnynt? Mae'r atebion yn y gyfrol hon, ynghyd â lluniau personol o albwm y teulu. Dyma gyfle i ddod i nabod dau arall o gewri Cymru'n well.