'Raslas bach a mawr!' Ebychiad enwog Syr Wynff a mynegiant o'i rwystredigaeth a'i ddicter tuag at Plwmsan, druan. Mae 'na rwystredigaeth a dicter yn y gyfrol hon, hefyd, oherwydd mae alcoholiaeth wedi difetha rhan go sylweddol o fywyd yr awdur. Ond sut yn y byd y digwyddodd hynny? Beth, a phwy, oedd y dylanwadau dinistriol? Faint o'r broblem oedd yn y genynnau? Dyw'r awdur ddim yn dal dim yn ôl - mae'n noeth o agored, yn boenus o onest wrth ddisgrifio'i brofiadau a'i deimladau ingol yn nyfnder ei uffern. Disgrifia, hefyd, sut y mae wedi cyrraedd lle y mae heddiw - yn sobr, ond yn byw un dydd ar y tro. Wrth gwrs, mae mwy i hanes Wynford Ellis Owen na'r cyfnod trist hwnnw. Cawn yma gipolwg ar helyntion difyr yn hanes yr actor adnabyddus a'r cyfarwyddwr dawnus, a chyfle i werthfawrogi ei ddawn fel awdur a sgriptiwr. Nid person di-fflach yw cyd-sgriptiwr Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Dyfarnwyd ei ffilm, Porc Pei, yn fuddugol yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Vürzburg yn yr Almaen yn 1999, ffilm sydd wedi datblygu'n gyfres hynod lwyddiannus a phoblogaidd ar S4C, Porc Peis Bach. Oes, mae yma ddau berson. Y llon a'r lleddf, y dwl a'r dwys - mae'r cyfan yn rhan o fywyd a chymeriad cymhleth gwrthrych diddorol yr hunangofiant arbennig hwn.