Dyw bywyd ddim yn rhwydd yn ardal Merthyr. Mae rhai o'r meistri haearn yn troi pobl o'u gwaith ac mae'r Cwrt Bach yn mynd ag eiddo pobl sy'n methu talu eu dyledion. Mae rhai pobl wedi cael digon ac yn teimlo ei bod yn bryd i bethau newydd.
Bu'n rhaid i Siani a'i mam adael Aberhonddu a dod i fyw at Bopa Mari ac Owa Tomos a'u teulu. Mae Siani wrth ei bodd yn y siop gydag Owa Tomos, yn gwrando'n astud ar y newyddion a'r straeon sydd gan y cwsmeriaid am yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal.
Ond a ydy Siani'n gwybod gormod...?
Bu Gwrthryfel Merthyr, 1831, yn ddigwyddiad chwyldroadol yn hanes Cymru. Yn y nofel hon cawn flas ar ba mor gyffrous a pheryglus roedd y cyfnod o safbwynt merch ddeuddeg oed a oedd yno ar y pryd.