'"Tri pheth na ellir ei atal; y môr, amser a..."' Teimlodd fel petai wedi disgyn i bydew. Aeth yn oer. DRwy'r niwl coch daeth enw i'w feddwl. Gwigyn. Daeth yn chwys rhynllyd er gwaetha poethni'r poen. Disgynnodd ar ei eistedd i'r llwch. Gwigyn.
Cyfraith a threfn ydi pwrpas y Gwigiaid byth ers i'r Derwyddon eu tynnu i'r byd ac er bod y rheiny'n hen hanes erbyn hyn, mae rhai o'r Gwigiaid yn dal i grwydro'r teyrnasoedd yn chwilio am droseddwyr. Er bod Ithel wedi gweld pob math o bethau rhyfedd ac ofnadwy, mae eu hachos diweddaraf y tu hwnt i hynny i gyd ac mae rhywrai, neu rywbeth, wrthi'n cynllwynio yn y cysgodion.
All Ithel ac Adwen ddod at wraidd pethau cyn ei bod hi'n rhy hwyr? Ar daith beryglus mae'r Gwigyn a'r porthmon yn dod i ddeall ei gilydd yn well ac yn dysgu bod mwy mag un math o anfadwaith ar ben y daith.
Nofel ffantasi dywyll sy'n plethu dirgelwch, trosedd a byd llawn dychymyg.